Archeb i Guest/Gwestai
Mae'ch basged siopa'n wag.

Earth (12A)
R.Seiliog

Dangosiad ffilm Earth (1930), Alexander Dovzhenko
Trac Sain wedi ei gyfansoddi a’i berfformio yn fyw gan R.Seiliog
Nos Sadwrn 18 Mawrth, 8.15pm
£12/10

Portread o’r Wcraín wrth i’r wlad symud o amaethyddiadeth wledig i oes gyfunoliaeth Stalin yw testun ffilm barddonol Dovzhenko. Rydym wedi comisiynu cerddor electronig arloesol, R.Seiliog (Robin Edwards) i gyfansoddi a pherfformio sgôr electronig newydd sbon ar gyfer y campwaith dyniaethol bythol hwn.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o benwythnos ffilm ‘PSYLENCE 2017’ sy'n gyfle i ddathlu gallu unigryw'r sinema i uno cerddoriaeth a delwedd i greu rhywbeth arbennig.

Dros y tridiau, bydd y ganolfan yn cyflwyno cerddoriaeth fyw gyda sinema fud (DATBLYGU ac ANDY WARHOL), trac sain electronig newydd ar gyfer clasur mud epig (EARTH ac R.SEILIOG), gwestai arbennig – yr awdur JON SAVAGE mewn sgwrs ac yn cyflwyno dangosiad o’r clasur PERFORMANCE, a sesiwn addysgiadol am ddim yn edrych ar greu ffilmiau cyngerdd.

Gan ddefnyddio sinema fud fel man cychwyn, bydd PSYLENCE yn anelu at addasu a defnyddio gofod sinema Pontio i gynnig profiadau newydd sbon i gynulleidfaoedd.

Cliciwch yma i weld rhaglen lawn PSYLENCE

Gyda chefnogaeth Film Hub Wales