Archeb i Guest/Gwestai
Mae'ch basged siopa'n wag.

Dr John Cooper Clarke

gyda Gwesteion

Nos Wener 16 Mawrth, 8pm
Theatr Bryn Terfel
£16-£26.50

BARDD; SEREN FFILMIAU A ROC; CYFLWYNYDD RADIO A THELEDU; COMEDÏWR; SYLWEBYDD CYMDEITHASOL A DIWYLLIANNOL

Daeth John Cooper Clarke i amlygrwydd yn yr 1970au fel ‘bardd y bobl’. Ers hynny mae ei yrfa wedi pontio diwylliannau, cynulleidfaoedd, ffurfiau celfyddyd a chyfandiroedd. Erbyn heddiw mae JCC yr un mor fywiog ac erioed, a’i ddylanwad ar ddiwylliant pop yr un mor amlwg.

Yn ogystal â’i edrychiad adnabyddus a’r ffaith bod ei farddoniaeth wedi ei chynnwys ym maes llafur y cwricwlwm cenedlaethol, mae ei effaith ar gerddoriaeth fodern yn enfawr.

Gellir clywed ei ddylanwad yn sylwadau cymdeithasol brwd yr Arctic Monkeys a Plan B. Mae'r cydweithrediadau hyn yn golygu bod John wedi bod yn rhan o 2 albwm rhif 1 byd-eang yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf - gyda'r Arctic Monkeys yn cyfansoddi cerddoriaeth i un o’i gerddi cariad gorau, I Wanna Be Yours, ar yr Albwm A:M enwog.

Mae’n dychwelyd i’r ardal ar ôl perfformio yng Ngŵyl Rhif 6 y llynedd gydag ei sioe ddiweddaraf sy’n teithio Prydain ac Ewrop y flwyddyn hon. Mae’n gymysgedd o gerddi clasurol, deunydd newydd rhyfeddol, myfyrdodau doniol am fywyd modern, ‘gags’, ‘riffs’ a sgwrsio. Dyma gyfle i brofi arwr ar ei orau.

Canllaw oed: 12+ peth iaith gref