Archeb i Guest/Gwestai
Mae'ch basged siopa'n wag.
 



   Gwener 15 Tachwedd
   8pm
   Theatr Bryn Terfel
   £20
   £18 myfyrwyr a dan 18

Natacha Atlas

Andy Hamill - bas
Liam Noble - piano
Asaf Sirkis - drymiau
Shanti Jayasinha - trwmped
Samy Bishai - ffidil / MD

Ystyrir yr artist Natacha Atlas, sydd wedi ennill bri rhyngwladol, yn un o leisiau mwyaf nodedig y byd. Gyda medrusrwydd eithriadol mae wedi datblygu cerddoriaeth unigryw sy'n cyfuno traddodiadau lleisiol y gorllewin a'r dwyrain canol. Yn ei gwaith diweddaraf mae Natacha wedi gwthio ei ffiniau lleisiol a cherddorol hyd yn oed ymhellach drwy wau traddodiadau jas i mewn yn ddiymdrech i'w cherddoriaeth nodedig.

Bydd Natacha Atlas a'i band yn perfformio traciau o'i halbwm newydd Strange Days, a ryddhawyd ym mis Medi 2019, yn ogystal â deunydd o Myriad Road ac albymau blaenorol.

www.natachaatlasofficial.com