Archeb i Guest/Gwestai
Mae'ch basged siopa'n wag.
 



   Iau 23 Ionawr
   7.30pm
   Theatr Bryn Terfel
   £12
   £10 myfyrwyr a dan 18

Gŵyl Gelli Gandryll a Pontio yn cyflwyno

Behold, America: A History of 'America First'

Noson yng nghwmni Sarah Churchwell

Ymunwch â ni ar gyfer mewnwelediad arbennig i hanes ‘America First’, hoff slogan Donald Trump a’i gefnogwyr. Er fod y farn boblogaidd yn priodoli’r ymadrodd i Charles Lindbergh ac ‘America First Committee’ ymynysol 1940-1941, mewn gwirionedd mae gan yr ymadroddiad hanes llawr hirach a thywyllach, stori ogynhwynoliaeth a’r Ku Klux Klan, ddiffyniaeth, ‘Americaniaeth 100%’ ac ymynysoldeb, ac o ffasgiaeth gynhenid y mae America yn parhau i gymryd arni ‘na all ddigwydd yma’. Bydd y noson yn cael ei chadeirio gan gyfarwyddwr Gwyl y Gelli, Peter Florence.

Digwyddiad yn y Saesneg
Canllaw oed 14+


Am Sarah Churchwell

Mae Sarah Churchwell yn Athro mewn Llenyddiaeth Americanaidd ac yn Gadeirydd Dealltwriaeth Cyhoeddus o’r Dyniaethau yn Ysgol Astudiaethau Pellach Prifysgol Llundain. Hi yw awdur Careless People: Murder, Mayhem and The Invention of The Great Gatsby, The Many Lives of Marilyn Monroe, ac yn fwyaf diweddar, Behold, America: A History of America First and the American Dream. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer y New York Review of Books, Guardian, New Statesman, Financial Times, Times Literary Supplement a’r New York Times Book Review, ymysg sawl cyfrol arall ac yn cynnig sylwadau cyson ar y celfyddydau, diwylliant, a gwleidyddiaeth ar gyfer teledu a radio yn y DU, gan ymddangos ar Question Time, Newsnight a The Review Show. Mae hi wedi bod ar banel beirniadu sawl gwobr llenyddol, gan gynnwys y Man Booker Prize yn 2014 a’r Baillie Gifford Prize for nonfiction yn 2017, a hithau oedd cyd-enillydd yr Eccles British Library Writer’s Award yn 2015.