Gwirfoddolwch
Mae Pontio yn lleoliad prysur, gyda channoedd o ddigwyddiadau a dangosiadau sinema bob blwyddyn. Mae angen tîm o wirfoddolwyr ymroddedig i gynorthwyo tîm Pontio er mwyn sicrhau bod ein cynulleidfaoedd yn cael profiad pleserus a chadarnhaol.Beth yw'r buddion o wirfoddoli gyda Pontio?
- Cyfle i gyfarfod ystod eang o bobl.
- Cyfle i ddysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd (cyfathrebu, gofal cwsmer, gwaith tîm, rheoli amser).
- Bydd Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn derbyn cydnabyddiaeth am y sgiliau y maent yn eu datblygu tra'n gwirfoddoli gyda Pontio - gall pwyntiau ychwanegol XP gael eu hawlio tuag at Wobr Cyflogadwyedd Bangor.
- Bydd Canolfan Bedwyr yn cynnig hyfforddiant iaith ac yn darparu sesiynau ar bolisi iaith.
- Gallwch wirfoddoli o 16 oed ymlaen.