Archeb i Guest/Gwestai
Mae'ch basged siopa'n wag.
 



   Nos Wener 22 Mehefin
   8pm

   Theatr Bryn Terfel
   £12 ymlaen llaw
   £14 ar y drws



"A dazzling album of strange Celtic magic”
Evening Standard

Gwenno

+ R.Seiliog

Le Kov (Lle’r Cof) yw ail albwm solo Gwenno Saunders, sy’n amlwg fel cantores, awdur caneuon a cherddor. Fe wnaeth Gwenno greu’r albwm hwn gan gydweithio unwaith yn rhagor â’r cynhyrchydd Rhys Edwards, gyda pheirianneg drymiau ychwanegol gan Gorwel Owen (Gorky’s Zygotic Mynci, Super Furry Animals) a chymysgu a rhaglennu ychwanegol gan David Wrench.

Mae Gwenno, a fagwyd yn llwyr drwy gyfrwng y Gernyweg a’r Gymraeg, yn edrych ar fythau a chwedlau Cernyw, a hanes goroesiad un o’n hieithoedd Brythonaidd llai adnabyddus. Drwy wneud hynny mae wedi creu un o albymau harddaf a mwyaf cyffrous 2018, sy’n gyforiog o fythau hynafol a themâu modern pwysig. Nid oes arnoch angen y daflen gyfieithu i werthfawrogi’r seicedelia hyfryd gyda blas y môr arni y mae Gwenno wedi’i chreu, gan alw i gof gerddoriaeth ei phlentyndod – Brenda Wootton, Alan Stivell, BUCCA ynghyd â The United States of America, White Noise a Serge Gainsbourg. Yn Le Kov clywir piano hiraethus, drymiau tanbaid a llinellau synth sydd fel pe baent yn ymestyn ar draws y gorwel.

Oed: 16+
Gig sefyll