Archeb i Guest/Gwestai
Mae'ch basged siopa'n wag.
 



   Nos Sadwrn 12 Hydref
   8pm
   Theatr Bryn Terfel
   £12 / £10 myfyrwyr a dan 18

Carwyn Ellis & Rio 18

Mae Joia! yn gasgliad lliwgar, arloesol a beiddgar o ganeuon yn y Gymraeg wedi’i blethu gyda dylanwadau amlwg pop a Lladin America gyda blas o arddulliau Bossa Nova, Cumbia, Samba a Tropicalismo.

Dyma waith unigol cyntaf Carwyn Ellis o dan ei enw ei hun. Yn enwog am fod yn brif ganwr Colorama, mae Carwyn wedi treulio mwyafrif y ddwy flynedd diwethaf yn teithio’r byd yn cefnogi’r Pretenders, a Chrissie Hynde ei hun sylwodd sawl record oedd Carwyn yn ei brynu tra ar daith yn Ne America yn gynnar yn 2018 ac awgrymodd y dylai wneud albwm iaith Gymraeg gyda dylanwadau Lladin. Cafodd ei gyflwyno i Kassin, y cerddor amryddawn a chynhyrchydd o Frasil. Cyfarfu y ddau yn Llundain yn Haf 2018, ac awgrymodd Kassin bod Carwyn ag yntau yn teithio i Rio i weithio ar yr albwm, ynghyd â rhai o gerddorion gorau Rio. Dychwelodd Carwyn i Gymru wedi’r recordio er mwyn ychwanegu rhywfaint o hud Cymreig iddynt.