Archeb i Guest/Gwestai
Mae'ch basged siopa'n wag.

Mamma Mia: Here We Go Again!


Ol Parker, 2018, 100m
Cast – Meryl Streep, Pierce Brosnan, Colin Firth, Amanda Seyfried, Cher
Gwener 27 Gorffennaf - Iau 9 Awst
£7.50 safonol / £6.50 dros 60 / £6 myfyriwr / £5.50 plentyn (dan 18 oed)

Byddwch yn barod i ganu, dawnsio a chwerthin unwaith yn rhagor! Deg mlynedd wedi Mamma Mia! The Movie mae’n amser dychwelyd i’r ynys Roegaidd hudol, Kalokairi, mewn sioe gerdd newydd sbon a gwreiddiol sydd wedi ei seilio ar ganeuon ABBA. Gyda cast gwreiddiol y ffilm yn dychwelyd ac ambell wyneb newydd yn ymuno â’r cast, gynnwys Lily James (Cinderella, Baby Driver). Bydd enillydd gwobr Academy, Meryl Streep, yn dychwelyd fel Donna, Julie Walters fel Rosie a Christine Baranski fel Tanya. Mae Amanda Seyfried a Dominic Cooper yn ailymuno fel Sophie a Sky, a Pierce Brosnan, Stellan Skarsgard a’r enillydd Oscar, Colin Firth, yn dychwelyd i chwarae tadau Sophie: Sam, Bill a Harry. Mae’r ffilm yn neidio’n ôl a ‘mlaen o’r gorffennol i’r presennol i ddangos hanes y cymeriadau!