Cyfarwyddiadau
Mae dod o hyd i Pontio’n hawdd. Mae’r Ganolfan wedi'i lleoli ar Ffordd Deiniol, sy’n rhoi Pontio yng nghanol Dinas Bangor.
Cyfeiriad: Pontio, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2TQ
Ar y Trên
Byddai'n cymryd oddeutu 10 munud i gerdded o Orsaf Bangor at Pontio. Mae gwasanaethau trên rheolaidd yn galw ym Mangor o orsafoedd ar hyd arfordir Gogledd Cymru, Caer, Manceinion, Caerdydd, Birmingham a Llundain. Cliciwch yma i gynllunio eich taith.
Ar y Bws
Y safle bws agosaf yw Gorsaf Fysiau Cloc Bangor. Byddai'n cymryd oddeutu 5 munud i gerdded at Pontio. Cliciwch yma i gael amseroedd bysiau cyfredol.
Mewn Car
Mae Bangor wedi lleoli ger Gwibffordd yr A55, gyda mynediad hawdd o Gyffordd 11, A5 allanfa Bangor / Betws-y-Coed - 3.5 Milltir (o gyfeiriad Llandudno, Caer, Lerpwl, Manceinion). O Gyffordd 9, dilynwch arwyddion allanfa A487 Bangor / Caernarfon - 3.4 Milltir (o gyfeiriad Ynys Môn). O'r de, dilynwch yr A487 ac arwyddion am Caernarfon / Bangor.
Ar Awyren
Y meysydd awyr rhyngwladol agosaf yw Maes Awyr John Lennon (Lerpwl), Maes Awyr Mona (Ynys Mon) a Maes Awyr Manceinion.
Dros y Môr
Mae'r porthladd agosaf wedi'i lleoli yng Nghaergybi, Ynys Môn sydd tua 25 milltir o Fangor ar hyd yr A55. Mae gwasanaethau fferi ar gael gan Irish Ferries a Stena Line sy’n gweithredu rhwng Porthladd Dulyn, Dun Laoghaire a Chaergybi.