Archeb i Guest/Gwestai
Mae'ch basged siopa'n wag.
 



   Nos Fercher 10 Hydref,
   7.30pm
   Theatr Bryn Terfel
   £14/£12 gostyngiadau


“From the beginning to the end, a gift of circus beauty and good vibes”
Jordi Jané aT rEComana.CaT

Cwmni Eia o Gatalwnia yn cyflwyno

inTarsi

Wedi teithio'n llwyddiannus ledled Ewrop, mae cwmni Eia o Gatalwnia yn dod â'u sioe theatr acrobatig in Tarsi, sydd wedi ennill sawl gwobr, drosodd i Brydain am y tro cyntaf.

Mae hon yn sioe berffaith i'r teulu cyfan, gyda'i chyfuniad o sgiliau acrobataidd rhyfygus, digrifwch, hiwmor a choreograffi slic. Pedwar o fechgyn sydd yma, yn herian, chwarae a chefnogi ei gilydd ar set hynod ddyfeisgar sy'n trawsnewid yn gyson yn dirweddau newydd. Weithiau maent yn gweithio gyda'i gilydd, dro arall yn erbyn ei gilydd, ond yn y diwedd maent yn cael eu cysylltu gan gwlwm cryf eu dynoliaeth gyffredin.

Canllaw oed: 6+