Archeb i Guest/Gwestai
Mae'ch basged siopa'n wag.


 

Gwledd Syrcas 2019

Y Byd wrth ein Traed


Mae Pontio yn falch iawn y bydd Gwledd Syrcas Feast yn dychwelyd yn haf 2019 gyda'r thema Y BYD WRTH EIN TRAED!

Mae syrcas gyfoes wedi cael lle amlwg yn raglen artistig Pontio ers blynyddoedd lawer. O'r BIANCO hyfryd gan No Fit State nôl yn 2013 (a aeth ymlaen i deithio'r byd) i FLOWN gan Pirates of the Carabina yn 2015, ac ACELERE ysblennydd gan griw o Colombia yn 2017, rydym wedi ceisio dod â'r sioeau gorau ym maes syrcas gyfoes ichi.

Y tro hwn, rydym yn croesawu Circus Abyssinia o Ethiopia gyda'u cynhyrchiad syrcas gwefreiddiol, Ethiopian Dreams. Gellwch ddisgwyl sioe deulu llawn hwyl gyda phob math o feiddgarwch a dawns acrobatig - ffordd berffaith o ddechrau gwyliau'r haf.

Bydd y Wledd Syrcas yn ysbrydoli tri artist preswyl; bydd y graddedigion diweddar o gwrs Sylfaen Dylunio a Chelf Coleg Menai yn cael y cyfle i weld perfformiadau, ymarferion a gweithdai, gan roi cyfle unigryw iddynt gofnodi bwrlwm gweledol a chlywedol sbloet syrcas gyfoes. Bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos yn y gist wydr ac ar y sgrin ym mannau cyhoeddus Pontio, yn ystod y wledd a thrwy gydol mis Awst.



 
...

ETHIOPIAN DREAMS

Prif sioe gan CIRCUS ABYSSINIA
19 - 23 Gorffennaf

...

DRUDWEN

Cimera
23 + 24 Gorffennaf

...

Gweithdai

19 - 26 Gorffennaf

...
JAM SYRCAS

Iau 25 Gorffennaf, 1.30-2pm

...

BandaBacana

Cerddoriaeth Fyw
Gwener 19 Gorffennaf

...

Do What Yah Mama Told Yah!

Articulture
Sadwrn 20 Gorffennaf

...

Eratik

Cerddoriaeth Fyw
Sadwrn 20 Gorffennaf, 8.30pm

...

Box

Inverted
Sul 21 Gorffennaf

...
Elidyr Glyn

Cerddoriaeth Fyw
Sul 21 Gorffennaf, 8.30pm

...

Pyro

CircoPyro
21-23 Gorffennaf

...

Pelat

Joan Català
Mawrth 23 Gorffennaf

...
Madog

CYMRU: BRASIL
22 - 24 Gorffennaf

...
Hela'r Twrch Trwyth

Iau 25 Gorffennaf
Ledled yr adeilad

...
Gwilym Bowen Rhys

Cerddoriaeth Fyw
Iau 25 Gorffennaf

...
Gorymdaith Syrcas

Drwy Bangor
Iau 18 Gorffennaf

...
Tafluniad Awyr Agored ABYSSINIA

Double Take Projections
21 - 23 Gorffennaf

...

Singalong: The Greatest Showman

Sinema
Sadwrn 20 Gorffennaf

...

Gwenan Gibbard

Cerddoriaeth fyw
Mawrth 21 Gorffennaf

...

Tant Canol / Avanc

Cerddoriaeth Fyw
Llun 22 Gorffennaf

...

Artistiaid Preswyl

Drwy gydol y Wledd

...

Syrcas i'r Dyfodol

Gwener 26 Gorffennaf