Archeb i Guest/Gwestai
Mae'ch basged siopa'n wag.
 



   Nos Iau 18 Hydref
   8pm
   Theatr Bryn Terfel
   £17
   14+

Off the Kerb Productions yn cyflwyno

Rich Hall's Hoedown

Mae sioe newydd Rich Hall wedi derbyn cymeradwyaeth gan feirniaid wrth iddo ddechrau ail ran ei daith. Nid oes amser gwell i fod yn gomedïwr Americanaidd yn y DU ar hyn o bryd. Wrth siarad am berthynas fregus dwy wlad mor gywir a pherthnasol ag erioed. Mae ei ddogfennau diweddar ar BBC Four, Rich Hall’s Countrier Than You a Rich Hall’s Presidential Grudge Match a chyfres BBC Radio 4 Rich Halls’ (US Election) Breakdown, wedi sicrhau dilyniant newydd iddo, yn ogystal ag ymddangosiadau ar Have I Got News For You a QI. Ond, os nad ydych wedi ei weld yn fyw eto, rydych yn colli allan!

“As close as it gets to a guaranteed good show”
Scotland on Sunday

Mae'r Hoedown yn dechrau wrth drafod America Trump, ond yn diweddu fel dathliad o Americana. Gyda stand-yp, ambell i gân, a digon o chwerthin, byddwch yn siŵr o gael amser da!

“Blissfully Funny” (Guardian)